Roeddem yn meddwl ei bod yn bwysig bod teuluoedd gydag aelod anabl yn cael mynediad at gyfleuster a oedd yn cynnig adloniant a hwyl i bawb.
Nod yr elusen yw codi digon o arian, drwy godi arian a grantiau, i allu darparu siglen arbenigol, trampolîn, trogylchoedd a lle i ddringo, ynghyd ag ychydig o gyfarpar synhwyraidd, gerllaw parc sy’n bodoli eisoes. Gellir defnyddio pob cyfarpar ar wahân i’r siglen gan blant abl. Mae’r siglen yn rhyfeddol ac mae hi wedi cael ei haddasu yn benodol ar gyfer y rhai hynny sydd mewn cadair olwyn.
Bydd y Parc cyfan yn costio £70,000 ac felly mae ffordd hir o’n blaenau. Gobeithiwn gynnal llawer o ddigwyddiadau codi arian drwy’r flwyddyn ac rydym wedi gwneud cais yn ogystal am gyllid gan y Loteri. Bydd y Parc ar agor i bob plentyn sy’n byw neu’n ymweld â’r ardal, a gobeithiwn y bydd yn cynyddu ansawdd bywyd pawb sy’n defnyddio’r cyfleusterau.
